Mae rhai pobl yn llwyddo i roi'r gorau i smygu y tro cyntaf - ond mae llawer o bobl yn gorfod ceisio rhoi'r gorau iddi fwy nag unwaith cyn iddynt lwyddo yn y pen draw. Felly os nad dyma'r tro cyntaf peidiwch â phoeni. Mewn gwirionedd, os ydych wedi rhoi cynnig ar roi'r gorau iddi yn y gorffennol rydych wedi dysgu gwersi gwerthfawr - am eich grym ewyllys, er enghraifft. Beth weithiodd i chi y tro diwethaf? Beth roeddech chi'n ei chael yn anodd? Meddyliwch am y pethau hyn cyn i chi roi'r gorau i smygu a bydd gennych siawns well byth o roi'r gorau iddi am byth!