I Clare Thomas, nyrs ardal 38 mlwydd oed, roedd y risgiau iechyd sy'n gysylltiedig â smygu yn amlwg yn ei bywyd gwaith o ddydd i ddydd, ond ni wnaeth hyn atal y gweithiwr iechyd proffesiynol ifanc hwn rhag parhau â'i harfer 24 o flynyddoedd.
Roedd Clare, a oedd yn deall mwy na'r rhan fwyaf o bobl am yr effeithiau niweidiol yr oedd smygu'n eu cael ar ei hiechyd, yn gwybod bod angen iddi roi'r gorau i'r sigaréts ond roedd gwneud hynny yn fater arall.
Ond yn dilyn cyfnod o salwch pan ddatblygodd Clare niwmonia, penderfynodd ei bod wedi cael llond bol a bod yn rhaid iddi roi'r gorau i'w harfer. Ffoniodd linell gymorth Dim Smygu Cymru a roddodd rif ffôn arbenigwr hyfforddedig iddi.
Cyn rhoi'r gorau i'r sigaréts, trafododd Clare gyda'i harbenigwr penodedig y rhesymau pam ei bod yn smygu a phryd gan gynllunio a pharatoi ar gyfer ei dyddiad rhoi'r gorau iddi. Trafodwyd ei hopsiynau o ran cymhorthion rhoi'r gorau i smygu a phenderfynodd Clare ddefnyddio patshys nicotin, gwm cnoi ac anadlydd i'w helpu i roi'r gorau iddi.
Dywedodd Clare: "Roeddwn yn gwybod yn iawn bod smygu yn ddrwg i'm hiechyd ond roedd rhoi'r gorau i wneud rhywbeth roeddwn yn ei fwynhau yn anodd. Roedd angen cymorth pobl eraill nad oeddent yn fy adnabod i'm helpu drwyddi.
"Mae dibynnu ar deulu a ffrindiau am gymorth yn wych, ond mae siarad yn agored ac yn onest â rhywun nad ydych yn ei adnabod ac sy'n eich rhoi mewn cysylltiad ag eraill sy'n mynd drwy'r un profiad yn amhrisiadwy.
"Rwyf wedi cwrdd â phobl drwy wasanaeth Dim Smygu Cymru nad ydynt yn dweud wrth eu teulu a'u ffrindiau eu bod yn rhoi'r gorau iddi gan fod hyn yn rhoi pwysau ychwanegol arnynt gan nad ydynt am siomi eu hanwyliaid".
Nawr, fwy na deufis yn ddiweddarach, mae Clare yn mwynhau ffordd o fyw ddi-fwg ac ni all gredu faint o amser ychwanegol sydd ganddi yn ystod y dydd i wneud pethau eraill.
Roedd smygu hyd at 40 o sigaréts y dydd nid yn unig yn golygu ei bod yn gwario cryn dipyn o'i chyflog misol ond roedd hefyd yn gwastraffu mwy na theirawr o'i dydd yn pwffio'n ddiddiwedd ar sigarét.
Ychwanegodd Clare: "Does ryfedd fy mod i'n teimlo straen yn y gwaith bob amser yn cwyno nad oedd gennyf ddigon o amser i wneud popeth, pan roeddwn yn treulio mwy na theirawr y diwrnod yn cymryd amser i smygu sigarét!"
Mae Clare, sy'n mwynhau ei bywyd di-fwg, wedi dechrau cymryd rhan mewn aerobeg ac mae wedi addo ei bod am ddechrau rhedeg. Mae hefyd yn mwynhau bwyta allan nawr ei bod yn gallu blasu beth y mae'n ei fwyta!