Nid dyma'r tro cyntaf i Gary Llewellyn Jones, 43 mlwydd oed o Crymlyn Burrows, roi'r gorau i smygu, ond dyma'r tro cyntaf iddo wybod ei fod am iddo fod yn gam parhaol.
Roedd straen yn ei fywyd bob dydd wedi ei ddenu yn ôl i'r sigaréts ond nid oedd smygu hyd at 30 y diwrnod yn dda i'w iechyd. Dechreuodd roi'r gorau iddi ar ei ben ei hun, ond ar ôl 10 diwrnod heb sigarét, roedd yn cael cryn drafferth.
Yna trodd Gary at Dim Smygu Cymru ar ôl sylweddoli na allai roi'r gorau iddi ar ei ben ei hun - ac nad oedd rheswm dilys pam bod yn rhaid iddo wneud hynny.
Ar ôl cysylltu â'r gwasanaeth, cafodd yr hunanhyder a'r anogaeth i gredu y gallai roi'r gorau iddi am byth y tro hwn.
Roedd y cyfarfodydd wythnosol yn ffynhonnell ardderchog o anogaeth i Gary gan fod cwrdd â phobl mewn sefyllfa debyg yn rhoi'r momentwm iddo barhau i roi'r gorau iddi. Dywedodd Gary: “Roedd y cyfarfodydd yn rhan allweddol o'm llwyddiant. Byddent rywsut yn rhoi'r egni i mi ar gyfer gweddill yr wythnos, pan fyddwch yn bwrw ati gyda'ch bywyd bob dydd, ond y tro hwn heb sigarét yn eich llaw!"
Mae Gary, sydd bellach yn credu'n gryf ym mhwysigrwydd rhannu eich profiad â phobl eraill sy'n meddwl yr un peth â chi, wedi annog dau o'i ffrindiau agosaf i roi'r gorau i smygu a chofrestru gyda gwasanaeth Dim Smygu Cymru.
Ychwanegodd Gary: "Mae gwasanaeth Dim Smygu Cymru yn gyfeillgar ac nid yw byth yn feirniadol ynglŷn â faint o sigaréts rydych wedi'u smygu ac am ba hyd dros y blynyddoedd. Mae'n ymwneud â chanolbwyntio ar y ffordd orau o lwyddo i bob unigolyn a bod yna i chi pan fyddwch yn ei chael hi'n anodd ar y dechrau".
Defnyddiodd Gary wm cnoi i'w helpu drwy ei gyfnodau cynnar o ysfa i smygu ac yn sgil y cyfarfodydd wythnosol cafodd yr anogaeth a'r penderfyniad i lwyddo. Nawr dri mis yn ddiweddarach, mae Gary yn mwynhau ei fywyd heb y sigaréts ac mae'n addo ei fod am aros felly.