• Sgipio'r mordwyaeth | 
  • Adborth | 
  • Map y safle | 
  • Map dogfennau | 
  • Rhestr A-Y | 
  • Hygyrchedd | 
  • English
w Stop Smoking Wales Dim Smygu Cymru
Stop Smoking Wales icon Mae smygwr sy'n defnyddio'r gwasanaeth bedair gwaith yn fwy tebygol roi'r gorau i smygu
  
Hafan > Hanesion llwyddiant > Astudiaeth Achos - Janet Igoe
  • Hafan
  • Beth yw Dim Smygu Cymru?
  • Pam Rhoi'r Gorau Iddi?
  • Paratoi i Roi'r Gorau Iddi
  • Cyngor ar Roi'r Gorau Iddi
  • Hanesion llwyddiant
    • Astudiaeth Achos - Clare Thomas
    • Astudiaeth Achos - Gary Llewellyn Jones
    • Astudiaeth Achos - Janet Igoe
    • Adborth
  • Cyngor ac Adnoddau

Astudiaeth Achos - Janet Igoe

Penderfynodd Janet Igoe, 62 mlwydd oed o Townhill, Abertawe fod angen iddi roi'r gorau i'r sigaréts am byth yn sgil salwch difrifol yn ystod Nadolig 2007.

Roedd smygu mwy na 400 o sigaréts yr wythnos am bron 50 o flynyddoedd wedi cael effaith niweidiol ar iechyd Janet. Yn sgil ei phrofiad, roedd ganddi reswm da dros werthuso ei bywyd a'r effeithiau negyddol yr oedd smygu yn eu cael ar ei lles.

Gan fod yn realistig a gwybod y byddai angen bod yn benderfynol iawn gyda llawer o rym ewyllys ar ôl bron 50 o flynyddoedd o smygu, gofynnodd Janet am gymorth gwasanaeth Dim Smygu Cymru. Penderfynodd ei merch, Jane gefnogi ei mam a rhoi'r gorau iddi ar yr un pryd hefyd.

Trefnwyd cyfarfod gyda Dim Smygu Cymru i'r fam a'r ferch a phennwyd dyddiad rhoi'r gorau iddi. Nawr, ar ôl mwy na thri mis heb gyffwrdd â sigarét, mae Janet a Jane yn profi llu o fanteision iechyd yn sgil rhoi'r gorau iddi.

Mae Janet bellach yn mwynhau cerdded i bob man ac mae'n arbed ffortiwn mewn costau tacsi. Dywedodd Janet: "Mae gennyf fwy o egni o lawer nawr nad oes rhaid i mi ddal tacsi i bob man, fe gerddaf i yn lle hynny!"

Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod lefelau carbon monocsid a nicotin yn y gwaed yn haneru wyth awr ar ôl rhoi'r gorau i smygu, ac erbyn 48 awr, nid oes nicotin ar ôl yn y corff o gwbl.

Ychwanegodd Janet: "Mewn gwirionedd, dyw rhoi'r gorau i smygu ddim yn hawdd ar adegau, ond mae cael gafael ar wasanaethau i'ch helpu i roi'r gorau iddi yn hawdd iawn. Mae'r cymorth rwyf wedi'i gael gan Dim Smygu Cymru a'i arbenigwyr hyfforddedig wedi bod yn anhygoel a hebddynt, byddwn wedi cael anhawster i roi'r gorau iddi".

Defnyddiodd Janet a Jane batshys nicotin i'w helpu i roi'r gorau i nicotin.
Roedd y sesiynau wythnosol a gynhaliwyd yn lleol gan Dim Smygu Cymru, a roddodd yr help a'r cymhelliant i Janet a Jane roi'r gorau iddi, yn amhrisiadwy hefyd.

Felly bron 50 o flynyddoedd yn ddiweddarach, gall Janet ddweud yn swyddogol ei bod yn ddi-fwg ac yn fodel rôl gwych o ran dangos nad yw byth yn rhy hwyr i roi'r gorau iddi!

Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 15 Rhagfyr 2011

Y dudalen hon yn Saesneg/This page in English

  • Case Study - Janet Igoe
  • Hygyrchedd |
  • Telerau Defnyddio |
  • Rhyddfraint am Gwybodaeth | 
  • 'N ôl i'r brig | 
  • Designed by Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru | 
  • Polisi Preifatrwydd