Mae'n gyffredin profi symptomau rhoi'r gorau iddi pan fyddwch yn rhoi'r gorau i smygu. Y pwynt pwysig yw nad yw'r rhan fwyaf o ysfeydd yn para mwy na phedair wythnos.
Mae'r anesmwythder byrdymor yn dangos bod nicotin yn gadael eich corff. Mae'r symptomau rhoi'r gorau iddi yn bersonol iawn hefyd - maent yn amrywio o berson i berson ac mae rhai smygwyr yn ei chael yn haws na'r disgwyl.
Dyma rai symptomau rhoi'r gorau iddi cyffredin y gallech ddisgwyl eu profi:

| Symptomau Cyffredin | Hyd |
| Teimlo'n fwy anniddig/ymosodol | Hyd at 4 wythnos |
| Teimlo'n fwy pryderus | Hyd at bythefnos |
| Teimlo'n fwy anesmwyth | Hyd at 4 wythnos |
| Ei chael yn anodd canolbwyntio | Hyd at bythefnos |
| Mwy o archwaeth bwyd | Dros 10 wythnos |
| Cwsg aflonydd | Hyd at wythnos |
| Iselder ysbryd | Hyd at 4 wythnos |
| Awydd i smygu | O leiaf bythefnos |