Mae Dim Smygu Cymru yn wasanaeth am ddim gan y GIG i helpu pobl i roi'r gorau i smygu.Mae gwaith ymchwil wedi dangos eich bod bedair gwaith yn fwy tebygol o roi'r gorau iddi gyda rhaglen gymorth fel Dim Smygu Cymru na phe baech yn ceisio gwneud hynny ar eich pen eich hun.
Mae Dim Smygu Cymru yn rhoi cyngor ar sail tystiolaeth a chymorth ymddygiadol i oedolion sy'n smygu sydd am roi'r gorau iddi.
Caiff y gwasanaeth ei ariannu a'i redeg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru - sefydliad y GIG sy'n rhoi cyngor ac yn darparu gwasanaethau iechyd cyhoeddus proffesiynol annibynnol i ddiogelu a gwella iechyd a lles pobl Cymru. Mae'n cyfrannu at fentrau rheoli tybaco cenedlaethol a lleol ac mae ganddo rôl allweddol yn y gwaith o leihau effaith tybaco ar iechyd pobl Cymru.
Os ydych yn smygwr gyda'r cymhelliant i roi'r gorau i smygu gallwch drefnu sesiwn sy'n gyfleus i chi drwy ddefnyddio'r rhif ffôn am ddim 0800 085 2219.
-
Dogfennau
-
Stop Smoking Wales Annual Report 2010 - 2011 (Saesneg yn unig)
(1015 KB)
15/12/2011
-
Stop Smoking Wales Annual Report 1 April 2009 - 31 March 2010 (Saesneg yn unig)
(Dogfen allanol)
15/12/2011
-