• Sgipio'r mordwyaeth | 
  • Adborth | 
  • Map y safle | 
  • Map dogfennau | 
  • Rhestr A-Y | 
  • Hygyrchedd | 
  • English
w Stop Smoking Wales Dim Smygu Cymru
Stop Smoking Wales icon Mae smygwr sy'n defnyddio'r gwasanaeth bedair gwaith yn fwy tebygol roi'r gorau i smygu
  
Hafan > Beth yw Dim Smygu Cymru? > Cwestiynau Cyffredin?
  • Hafan
  • Beth yw Dim Smygu Cymru?
    • Sut mae'r Gwasanaeth yn Gweithio
    • Rhaglen Cymorth Grŵp
    • Cwestiynau Cyffredin?
    • Dod o hyd i Grŵp yn agos atoch
    • Fideos Dim Smygu Cymru
  • Pam Rhoi'r Gorau Iddi?
  • Paratoi i Roi'r Gorau Iddi
  • Cyngor ar Roi'r Gorau Iddi
  • Hanesion llwyddiant
  • Cyngor ac Adnoddau

Cwestiynau Cyffredin?

Justthought(W)C - A roddir patshys i mi pan fyddaf yn dod i'r grŵp?

A - Ni allwn ddarparu na rhagnodi meddyginiaethau yn y sesiynau grŵp. Unwaith y byddwch wedi mynd i'r Sesiwn Asesu a'ch bod yn barod i roi'r gorau iddi, gall eich Cynghorydd roi llythyr i chi ei roi i'ch meddyg teulu neu'ch fferyllydd lleol fel bod modd i chi gael therapi amnewid nicotin. Fel arall gallwn roi llythyr i chi ei roi i'ch meddyg teulu i roi gwybod iddo fod gennych ddiddordeb mewn cael naill ai Zyban™ neu Champix™.

C - Pam bod yn rhaid i mi fynd bob wythnos?

A - Yn ogystal â rhoi gwybodaeth i chi am feddyginiaethau i'ch helpu i roi'r gorau i smygu bydd y rhaglen cymorth grŵp chwe wythnos yn eich helpu i ddysgu sut i reoli eich ysfa i smygu a newid eich arferion i sicrhau nad ydych yn ailddechrau smygu. Dengys ein gwaith ymchwil os mai dim ond i un o'r chwe sesiwn y byddwch yn mynd iddi bydd eich tebygolrwydd o roi'r gorau iddi yn llwyddiannus yn gostwng i 20%. Os byddwch yn mynd i bob un o'r chwe sesiwn bydd eich tebygolrwydd o roi'r gorau iddi yn codi i 85%.

C - Beth os nad wyf yn barod i roi'r gorau iddi?

A - Os ewch i'r Sesiwn Asesu a theimlo nad dyma'r amser iawn i geisio rhoi'r gorau iddi gallwch gysylltu â ni eto pan fyddwch yn barod. Awgrymwn y gall chwe mis fod yn gyfnod da i gael eich cymell unwaith eto a rhoi cynnig arall arni.

C - Dydw i ddim yn gwybod a fyddai grŵp o gymorth i mi. Alla i weld Cynghorydd ar sail un i un?

A - Os hoffech weld Cynghorydd ar sail un i un gellir trafod hyn. Ceisiwn drefnu cyfarfodydd un i un ar gyfer smygwyr beichiog, y rheini fydd yn cael llawdriniaeth, pobl ifanc a'r rheini nad yw sesiwn grŵp yn addas iddynt.

C - Rwy'n cymryd tabledi ar gyfer cyflwr iechyd - a fyddaf yn gallu defnyddio therapi amnewid nicotin o hyd?

A - Am na allwn weld eich cofnodion meddygol ni fyddwn yn gallu gwneud asesiad o unrhyw wrtharwyddion posibl gyda meddyginiaethau i'ch helpu i roi'r gorau i smygu. Byddwn yn eich cyfeirio at eich meddyg teulu i sicrhau nad oes unrhyw broblemau.

Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 08 Rhagfyr 2011

Y dudalen hon yn Saesneg/This page in English

  • Common Questions?
  • Hygyrchedd |
  • Telerau Defnyddio |
  • Rhyddfraint am Gwybodaeth | 
  • 'N ôl i'r brig | 
  • Designed by Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru | 
  • Polisi Preifatrwydd