Mae pawb yn wahanol - a gallwn eich helpu i ddod o hyd i'r cynnyrch sy'n cyfateb orau i chi. Gwyddom fod rhoi'r gorau i smygu yn anodd ond mae rhai cynhyrchion ar gael a all eich helpu. Gall ein Cynghorwyr hyfforddedig eich helpu i ddewis y cynnyrch gorau i chi. Mae'r cynhyrchion hyn wedi profi eu bod yn helpu pobl i roi'r gorau i smygu a byddwch yn gallu cael y rhain am ddim gan eich meddyg neu o'ch fferyllfa pan ymunwch â rhaglen chwe wythnos.
Gellir prynu therapïau amnewid nicotin (NRT) dros y cownter mewn fferyllfeydd neu gall eich meddyg eu rhagnodi. Mae llawer o wahanol gynnyrch therapi amnewid nicotin ar gael yn yr oes sydd ohoni. Canfyddwch pa un allai fod orau i chi. Yn ogystal â therapi amnewid nicotin traddodiadol mae dwy feddyginiaeth ar gael y gall eich meddyg eu rhagnodi, sef buproprion (Zyban®) a varenicline (Champix®).
Ffoniwch ein llinell gymorth am ddim ar 0800 085 2219 i siarad ag aelod o'n tîm cyfeillgar.