• Sgipio'r mordwyaeth | 
  • Adborth | 
  • Map y safle | 
  • Map dogfennau | 
  • Rhestr A-Y | 
  • Hygyrchedd | 
  • English
w Stop Smoking Wales Dim Smygu Cymru
Stop Smoking Wales icon Mae smygwr sy'n defnyddio'r gwasanaeth bedair gwaith yn fwy tebygol roi'r gorau i smygu
  
Hafan > Cyngor ar Roi'r Gorau Iddi > Delio â Straen
  • Hafan
  • Beth yw Dim Smygu Cymru?
  • Pam Rhoi'r Gorau Iddi?
  • Paratoi i Roi'r Gorau Iddi
  • Cyngor ar Roi'r Gorau Iddi
    • Sut i Ymdopi ag Ysfa i Smygu
    • Sut i Osgoi Magu Pwysau
    • Delio â Straen
    • Beth yw eich Patrwm Smygu?
  • Hanesion llwyddiant
  • Cyngor ac Adnoddau

Delio â Straen

ServiceExcellent(W)Cred llawer o bobl bod smygu yn eu helpu i ymdopi â straen - yn aml mae hyn yn broblem pan ddaw i roi'r gorau i smygu. Yr unig reswm y mae smygu yn gwneud i ni deimlo'n fwy esmwyth yw am ei fod yn rhoi rhyddhad byrdymor i ni o flysiau. Mae straen a phryder yn dychwelyd yn fuan, yn aml yn gryfach na chynt, gan wneud i chi fod eisiau smygu sigarét arall. Mae gwaith ymchwil wedi canfod bod rhoi'r gorau i smygu yn lleihau lefelau o straen mewn gwirionedd - felly er mwyn rhyddhau straen go iawn - rhowch y gorau i smygu!

Awgrymiadau defnyddiol:
  • Byddwch yn Bositif. Mae'n helpu i deimlo'n dda amdanoch eich hun, wedi'r cyfan, rydych wedi gwneud un o'r pethau gorau y gallwch ei wneud - rydych wedi rhoi'r gorau i smygu. Byddwch yn teimlo'n well, byddwch yn iachach a bydd gennych fwy o arian i'w wario
  • Gofalwch amdanoch eich hun. Ceisiwch fwyta'n iach a chael digon o gwsg ac ymarfer corff
  • Symudwch. Mae gwaith ymchwil yn dangos bod gweithgarwch rheolaidd yn gwella eich hwyliau ac yn eich ymlacio
  • Cymerwch un dydd ar y tro. Peidiwch â cheisio gwneud gormod drwy bennu nodau afrealistig
  • Mwynhewch. Neilltuwch amser bob diwrnod i wneud rhywbeth rydych yn ei fwynhau

Efallai bod gennych eich awgrymiadau defnyddiol eich hun - os felly, rhowch wybod i ni!

Ffoniwch ein llinell gymorth am ddim ar 0800 085 2219 i siarad ag aelod o'n tîm cyfeillgar a chael gwybod am eich sesiwn agosaf.

Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 15 Rhagfyr 2011

Y dudalen hon yn Saesneg/This page in English

  • Handling Stress
  • Hygyrchedd |
  • Telerau Defnyddio |
  • Rhyddfraint am Gwybodaeth | 
  • 'N ôl i'r brig | 
  • Designed by Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru | 
  • Polisi Preifatrwydd