Rydym yn cynnal sesiynau grŵp wythnosol ledled Cymru mewn lleoliadau lleol a chyfleus fel bod modd dod o hyd i grŵp ar adeg ac mewn lleoliad sy'n addas i chi. Mae ein grwpiau yn cyfarfod mewn:
- canolfannau cymunedol lleol
- meddygfeydd meddygon teulu
- clinigau iechyd cymunedol
- neuaddau cymunedol
- gweithleoedd
Mae gennym apwyntiadau o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y dydd a min nos. Gallwch ddewis apwyntiad ar adeg sy'n addas i chi.
I gael rhagor o wybodaeth am eich sesiwn cymorth grŵp Dim Smygu Cymru agosaf, siaradwch ag aelod o'n tîm cyfeillgar am ddim ar 0800 085 2219.