• Sgipio'r mordwyaeth | 
  • Adborth | 
  • Map y safle | 
  • Map dogfennau | 
  • Rhestr A-Y | 
  • Hygyrchedd | 
  • English
w Stop Smoking Wales Dim Smygu Cymru
Stop Smoking Wales icon Mae smygwr sy'n defnyddio'r gwasanaeth bedair gwaith yn fwy tebygol roi'r gorau i smygu
  
Hafan > Cyngor ac Adnoddau > Gweithwyr Iechyd Proffesiynol
  • Hafan
  • Beth yw Dim Smygu Cymru?
  • Pam Rhoi'r Gorau Iddi?
  • Paratoi i Roi'r Gorau Iddi
  • Cyngor ar Roi'r Gorau Iddi
  • Hanesion llwyddiant
  • Cyngor ac Adnoddau
    • Gweithwyr Iechyd Proffesiynol
      • Hyfforddiant Ymyrraeth Fer
      • Dyddiadau Hyfforddiant Mehefin - Medi 2012
    • Cwestiynau a Mythau Cyffredin
    • Dolenni Defnyddiol
    • Cysylltwch â ni

Gweithwyr Iechyd Proffesiynol

Mae bron 70% o smygwyr eisoes am roi'r gorau i smygu, felly mae'n gwneud synnwyr cyfeirio eich cleifion at Dim Smygu Cymru.

Dengys gwaith ymchwil fod smygwyr am gael cyngor gan weithwyr gofal iechyd fel chi ac yn ymddiried yn eich cyngor - rydych yn bwysicach yn y broses hon nag a gredwch. Gyda'ch help chi, bydd llawer o smygwyr nid yn unig yn rhoi'r gorau iddi, ond yn rhoi'r gorau iddi am byth.

Mewn gwirionedd, cynnig cyngor byr ar roi'r gorau i smygu yw'r cam gweithredu mwyaf cost-effeithiol a phrofedig yn glinigol y gael gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ei gymryd. Mae smygwyr bedair gwaith yn fwy tebygol o roi'r gorau i smygu'n llwyddiannus gyda chymorth y GIG na thrwy ddefnyddio grym ewyllys yn unig. Felly gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mewn dim ond 30 o eiliadau gallwch helpu claf i sylweddoli mai rhoi'r gorau i smygu yw'r peth gorau y gall ei wneud i'w iechyd - a bod triniaeth a chymorth ar gael am ddim.


Hyfforddiant Ymyrraeth Fer


I'ch cefnogi chi, rydym wedi datblygu a darparu Ymyrraeth Fer achrededig am ddim mewn hyfforddiant Rhoi'r Gorau i Smygu i gefnogi gweithwyr iechyd a chymunedol proffesiynol i annog smygwyr i feddwl am roi'r gorau iddi a'u galluogi i gael gafael ar gymorth arbenigol pan fyddant yn barod.

Mae ymyrraeth fer yn ddull o drafod smygu a rhoi'r gorau iddi mewn ffordd gadarnhaol, nad yw'n wrthwynebus i annog smygwyr i feddwl am roi'r gorau iddi a'u galluogi i gael gafael ar gymorth arbenigol pan fyddant yn barod.

Mae'r hyfforddiant hwn yn addas i bob gweithiwr iechyd a chymunedol sy'n dod i gysylltiad â smygwyr yn rheolaidd.

Mae'r hyfforddiant yn cwmpasu:
  • Materion a phryderon sy'n gysylltiedig â smygu, cyffredinrwydd, newidiadau diweddar i'r gyfraith, risgiau smygu i'ch iechyd a manteision rhoi'r gorau iddi
  • Deall pam bod pobl yn smygu a pham y gall fod yn anodd rhoi'r gorau iddi
  • Adnabod pan fydd person yn barod i roi'r gorau iddi
  • Datblygu sgiliau ymarferol i wneud ymyrraeth fer effeithiol
  • Sut i gyfeirio at Dim Smygu Cymru a beth mae'r gwasanaeth yn ei gynnig

Mae'r hyfforddiant wedi'i ddatblygu gan ymarferwyr Dim Smygu Cymru ac mae wedi'i achredu drwy'r Coleg Nyrsio Brenhinol ac Agored Cymru (Rhwydwaith Coleg Agored Cymru gynt). Darperir y cwrs drwy gyfrwng y Saesneg.

Os hoffech ragor o wybodaeth am ein calendr hyfforddiant a/neu os hoffech archebu lle ar gwrs, ffoniwch 0800 085 2210 i gael rhagor o fanylion.

  • Dogfennau
    • [Ffeil PDF]  Mwy o wybodaeth ar Ydych chi o ddifrif ynghylch rhoi’r gorau i smygu? Ydych chi o ddifrif ynghylch rhoi’r gorau i smygu? (311 KB) 15/12/2011
    • [Ffeil PDF]  Mwy o wybodaeth ar Canllawiau ar safonau ar gyfer hyfforddiant mewn ymarfer rhoi’r gorau i ysmygu yng Nghymru Canllawiau ar safonau ar gyfer hyfforddiant mewn ymarfer rhoi’r gorau i ysmygu yng Nghymru (1 MB) 15/12/2011
    • [Ffeil Allanol]  Mwy o wybodaeth ar Quit Smoking - You can Do It (Seasneg yn unig) Quit Smoking - You can Do It (Seasneg yn unig) (Dogfen allanol) 15/12/2011
    • [Ffeil Allanol]  Mwy o wybodaeth ar So You Want a Smokefree Life (Saesneg yn unig) So You Want a Smokefree Life (Saesneg yn unig) (Dogfen allanol) 15/12/2011
    • [Ffeil Allanol]  Mwy o wybodaeth ar Y ffordd haws i roi'r gorau i smygu Y ffordd haws i roi'r gorau i smygu (Dogfen allanol) 15/12/2011
    • [Ffeil Allanol]  Mwy o wybodaeth ar Women and Smoking (Saesneg yn unig) Women and Smoking (Saesneg yn unig) (Dogfen allanol) 15/12/2011
    • [Ffeil Allanol]  Mwy o wybodaeth ar Mwg ail-law: Beth yw mwg ail-law a'r hyn y gallwch ei wneud amdano? Mwg ail-law: Beth yw mwg ail-law a'r hyn y gallwch ei wneud amdano? (Dogfen allanol) 15/12/2011
    • [Ffeil Allanol]  Mwy o wybodaeth ar Ysmygu yng Nghymru: Y Ffeithiau (2007) Ysmygu yng Nghymru: Y Ffeithiau (2007) (Dogfen allanol) 15/12/2011
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 15 Rhagfyr 2011

Y dudalen hon yn Saesneg/This page in English

  • For Health Professionals
  • Hygyrchedd |
  • Telerau Defnyddio |
  • Rhyddfraint am Gwybodaeth | 
  • 'N ôl i'r brig | 
  • Designed by Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru | 
  • Polisi Preifatrwydd