Mae Dim Smygu Cymru yn cefnogi miloedd o smygwyr bob blwyddyn ac yma gallwch ddarllen hanesion llwyddiant gan smygwyr sydd wedi defnyddio'r Gwasanaeth i'w helpu i roi'r gorau iddi. Os oes gennych brofiad yr hoffech ei rannu, rhowch wybod i ni. Drwy rannu eich stori, gallwch helpu pobl eraill drwy esbonio sut yr aethoch chi ati i roi'r gorau i smygu, yr heriau a brofwyd gennych a manteision rhoi'r gorau iddi.
At hynny, os hoffech roi sylwadau neu adborth ar sut y gallwn wella ein Gwasanaeth, rhowch wybod i ni, gan ein bod yn gwerthfawrogi awgrymiadau i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth effeithiol sy'n diwallu anghenion smygwyr sydd angen ein cymorth.