Ydych chi erioed wedi meddwl faint mae smygu yn ei gostio i chi? Ydych chi erioed wedi meddwl ar beth arall y gallech fod yn gwario eich arian? Byddwch yn rhyfeddu at faint o arian y gallech ei arbed drwy roi'r gorau i smygu. Bydd y Cyfrifiannell Smygu yn eich helpu i weithio allan faint o arian rydych yn ei wario ar smygu a faint y gallech fod yn ei arbed.
- Dolen i'r Cyfrifiannell Smygu
Rydym yn cynnal sesiynau grŵp wythnosol ledled Cymru a all eich helpu i roi'r gorau i smygu. Ffoniwch ein llinell gymorth am ddim ar 0800 085 2219 i siarad ag aelod o'n tîm cyfeillgar a chael gwybod am eich sesiwn agosaf.