Gwella yn Gynt!
Wyddech chi y gallai eich arhosiad yn yr ysbyty fod yn sylweddol fyrrach pe baech yn rhoi'r gorau i smygu o leiaf wyth wythnos cyn eich llawdriniaeth?
Pam y dylwn i roi'r gorau i smygu cyn fy llawdriniaeth?
Mae smygu yn cynyddu'r tebygolrwydd o gymhlethdodau yn dilyn llawdriniaeth. Os byddwch yn rhoi'r gorau i smygu cyn eich llawdriniaeth byddwch yn llawer llai tebygol o ddioddef o:

- Problemau anadlu a phroblemau'r ysgyfaint
- Heintiau
- Clwyfau'n araf yn gwella
Mae smygwyr yn fwy tebygol o aros yn yr ysbyty am gyfnod hirach na phobl nad ydynt yn smygu oherwydd y risgiau hyn. Gall rhoi'r gorau i smygu o leiaf 8 wythnos cyn llawdriniaeth leihau'r tebygolrwydd o brofi'r cymhlethdodau hyn.
I gael help i roi'r gorau i smygu cyn eich llawdriniaeth ffoniwch ein llinell gymorth am ddim ar 0800 085 2219 i siarad ag aelod o'n tîm cyfeillgar a all roi cyngor ar y cymorth sydd orau i chi.
At hyn, efallai na fyddwch am ailddechrau smygu ar ôl eich llawdriniaeth gan roi mantais tymor hwy i chi. Rydych bedair gwaith yn fwy tebygol o roi'r gorau i smygu gyda help rhaglen fel Dim Smygu Cymru nag ydych mewn unrhyw ffordd arall.