| Myth: ![]() | Ffaith: Bydd 1 o bob 2 smygwr gydol oes yn marw oherwydd ei arfer. Mae smygu yn lladd tua 6000 o bobl y flwyddyn yng Nghymru - sef un person bob 90 munud. |
| Myth: | Ffaith: Mae manteision rhoi'r gorau i smygu yn digwydd ar unwaith waeth beth fo'ch oedran. O fewn wythnosau bydd eich anadlu'n gwella a byddwch yn dechrau teimlo'n iachach. Edrychwch ar fanteision rhoi'r gorau i smygu i gael rhagor o wybodaeth. |
| Myth: ![]() | Ffaith: Mae astudiaethau'n dangos bod lleihau nifer y sigaréts rydych yn eu smygu yn annhebygol o'ch helpu i roi'r gorau iddi oherwydd nid dim ond y nifer rydych yn eu smygu sy'n cyfrif ond y ffordd rydych yn eu smygu hefyd. |
| Myth: ![]() | Ffaith: Rydych yn dal i anadlu'r un gwenwyn. Nid oes unrhyw dystiolaeth i ddangos ei fod yn gwneud llai o niwed. Edrychwch ar ddiagram "Beth sydd mewn sigarét?" i ganfod beth yn union rydych yn ei anadlu i mewn i'ch corff. |
| Myth: ![]() | Ffaith: Mae ymchwil yn dangos bod smygu un pwff hyd yn oed bron yn sicr o arwain yn ôl at smygu'n rheolaidd. |
Rydym yn cynnal rhaglenni wythnosol sy'n para chwe wythnos ledled Cymru a all eich helpu i roi'r gorau i smygu. Ffoniwch ein llinell gymorth am ddim ar 0800 085 2219
.jpg)
.jpg)
.jpg)
.jpg)