• Sgipio'r mordwyaeth | 
  • Adborth | 
  • Map y safle | 
  • Map dogfennau | 
  • Rhestr A-Y | 
  • Hygyrchedd | 
  • English
w Stop Smoking Wales Dim Smygu Cymru
Stop Smoking Wales icon Mae smygwr sy'n defnyddio'r gwasanaeth bedair gwaith yn fwy tebygol roi'r gorau i smygu
  
Hafan > Mynegai newyddion > Ymgyrch i amddiffyn plant rhag mwg sigaréts mewn ceir

Ymgyrch i amddiffyn plant rhag mwg sigaréts mewn ceir

Dydd Llun, 6 Chwefror 2012
Mae Ymgyrch Llywodraeth Cymru i amddiffyn plant rhag peryglon mwg ail law mewn ceir yn dechrau heddiw.
Mae’r ymgyrch “Cychwyn Iach Cymru” yn galw ar rieni, ac unrhyw un arall sy’n gwarchod plant, i addo i gadw eu ceir yn ddi-fwg. Trwy wneud hynny, byddan nhw’n amddiffyn eu plant rhag y peryglon i iechyd sy’n gysylltiedig ag anadlu mwg ail law mewn man cyfyngedig. Yn ystod y cam hysbysebu cyntaf, byddwn yn defnyddio radio lleol, hysbysfyrddau, cefn bysiau, chabanau aros bysiau a gwefan arbennig.

Yn ôl yr arolwg Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol, mae tuag 20% o blant ysgol 11-16 oed yng Nghymru yn dweud eu bod wedi anadlu mwg y tro diwethaf iddynt deithio mewn car.

Wrth lansio’r ymgyrch, dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell,

“Mae plant yn enwedig mewn perygl os byddant yn anadlu mwg ail law, yn arbennig gan fod cerbyd yn lle cyfyngedig ac nid oes modd dianc rhag y perygl o gael eich niweidio gan y cemegau gwenwynig mewn sigaréts. Mae anadlu’r cemegau hyn yn gallu arwain at nifer o gyflyrau, gan gynnwys syndrom marwolaeth sydyn babanod ac asthma.

"Mae tystiolaeth gadarn bod lefel y cemegau gwenwynig yn uchel iawn mewn ceir, hyd yn oed pan fydd ffenestr ar agor. Nod ymgyrch Cychwyn Iach Cymru yw gwneud pobl yn ymwybodol bod smygu mewn ceir yn beryglus i deithwyr, yn enwedig plant.”

Ym mis Gorffennaf 2011, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, y byddai Llywodraeth Cymru yn ystyried gwahardd smygu mewn ceir sy’n cludo plant os na fydd lleihad dros y tair blynedd nesaf yn y perygl i blant sy’n digwydd yn sgil anadlu mwg ail law.

Dywedodd y Prif Weinidog,

“Mae neges yr ymgyrch hon yn glir: mae smygu mewn ceir yn gwenwyno’ch plant.

“Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i bleidleisio o blaid gwahardd smygu mewn mannau cyhoeddus, ac os bydd rhaid, byddwn yn ystyried cyflwyno deddfwriaeth bellach i amddiffyn plant rhag mwg ail law.

“Os na fydd lefelau smygu’n gostwng yn sgil yr ymgyrch, byddwn yn trafod gwaharddiad ar smygu mewn ceir sy’n cludo plant yn nes ymlaen yn y tymor llywodraethu pum mlynedd hwn. Rydyn ni wedi comisiynu ymchwil i fesur lefelau smygu mewn ceir ac agweddau’r cyhoedd tuag at hyn. Cynhelir ymchwil bob hyn a hyn yn ystod yr ymgyrch i werthuso ei llwyddiant.”
Ffynhonnell: Dim Smygu Cymru
  • Hygyrchedd |
  • Telerau Defnyddio |
  • Rhyddfraint am Gwybodaeth | 
  • 'N ôl i'r brig | 
  • Designed by Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru | 
  • Polisi Preifatrwydd