• Sgipio'r mordwyaeth | 
  • Adborth | 
  • Map y safle | 
  • Map dogfennau | 
  • Rhestr A-Y | 
  • Hygyrchedd | 
  • English
w Stop Smoking Wales Dim Smygu Cymru
Stop Smoking Wales icon Mae smygwr sy'n defnyddio'r gwasanaeth bedair gwaith yn fwy tebygol roi'r gorau i smygu
  
Hafan > Paratoi i Roi'r Gorau Iddi > Peidio ag Ailddechrau
  • Hafan
  • Beth yw Dim Smygu Cymru?
  • Pam Rhoi'r Gorau Iddi?
  • Paratoi i Roi'r Gorau Iddi
    • Pam Ein Defnyddio Ni?
    • Cynhyrchion i'ch Helpu i Roi'r Gorau Iddi
    • Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch yn rhoi'r gorau iddi
    • Peidio ag Ailddechrau
    • Angen rhoi cynnig arall arni
  • Cyngor ar Roi'r Gorau Iddi
  • Hanesion llwyddiant
  • Cyngor ac Adnoddau

Peidio ag Ailddechrau

JustThought(W)Rydych wedi llwyddo i roi'r gorau i smygu ac rydych yn teimlo'n eithaf hyderus. Llongyfarchiadau!

Fodd bynnag, mae'n bwysig cofio nad hyn yw diwedd eich taith. Gallech deimlo ysfa i smygu pan na fyddwch yn ei disgwyl. Efallai y gallwch baratoi ar gyfer y sefyllfaoedd hyn cyn iddynt ddigwydd.

Mae dadlau â theulu neu ffrindiau, straen yn y gwaith neu brofedigaeth oll yn gysylltiedig ag ailddechrau smygu. Gall bod yn ymwybodol o'r sefyllfaoedd hyn a chynllunio strategaethau ymdopi olygu'r gwahaniaeth rhwng dychwelyd i smygu'n rheolaidd a rhoi'r gorau i smygu'n llwyddiannus.
 

Beth allwch chi ei wneud?

  • Nodi eich sefyllfaoedd anodd cyn iddynt ddigwydd
  • Cynllunio sut y byddwch yn ymdopi - meddyliwch am y pethau y gallwch eu gwneud pan fydd sefyllfa anodd yn codi
  • Ceisiwch gofio beth rydych yn bwriadu'i wneud ac ymarfer ei wneud. Fel hyn fe welwch eich bod yn ymateb yn awtomatig

Dyma rai enghreifftiau o sbardunau cyffredin ynghyd â rhai awgrymiadau o sut y gallech ddelio â hwy. Efallai fod gennych rai syniadau eich hun am sut i ymdopi â'r sefyllfaoedd hyn

 

Sefyllfa

Ein Hawgrym

 

Beth i'w Gofio

 Beth i'w Wneud

Cael newyddion drwg

Ni fydd smygu yn newid y newyddion drwg, ac ni fydd yn ateb unrhyw broblemau, dim ond yn ychwanegu atynt

Ewch i grio neu siaradwch â rhywun. Gwnewch amser i chi eich hun

Ar ôl ffrae

Gallwch ymdopi â'r sefyllfa heb smygu

Gadewch y broblem am rai munudau; cymerwch bum anadl ddofn, ymlaciwch, ewch am dro

Bod gydag smygwyr

Mewn gwirionedd maen nhw am roi'r gorau iddi hefyd

Ceisiwch beidio â chael yr un pwff o sigarét

 Yfed alcohol

Gallwch ddysgu mwynhau diod heb smygu

Cadwch eich dwylo yn brysur; chwaraewch gyda'ch allweddi

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer sut i barhau i beidio â smygu, rhowch wybod i ni.

Teimlo'n hyderus iawn? Efallai y byddwch yn cael eich temtio i brofi eich hun. Peidiwch byth â meddwl y gallwch gael dim ond un pwff o un sigarét! Mae'n risg fawr. Rydych wedi gwneud yn arbennig o dda a gall dim ond un pwff o sigarét eich arwain yn ôl i smygu'n rheolaidd eto drwy ailddeffro'r derbynyddion nicotin yn eich corff.

Gyda'n cymorth ni, ni fyddwch yn rhoi'r gorau i roi'r gorau iddi. Ffoniwch ein llinell gymorth am ddim ar 0800 085 2219 i siarad ag un o'n cynghorwyr cyfeillgar am sesiynau grŵp Dim Smygu Cymru. 
 

 

Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 09 Rhagfyr 2011

Y dudalen hon yn Saesneg/This page in English

  • Staying Stopped
  • Hygyrchedd |
  • Telerau Defnyddio |
  • Rhyddfraint am Gwybodaeth | 
  • 'N ôl i'r brig | 
  • Designed by Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru | 
  • Polisi Preifatrwydd