• Sgipio'r mordwyaeth | 
  • Adborth | 
  • Map y safle | 
  • Map dogfennau | 
  • Rhestr A-Y | 
  • Hygyrchedd | 
  • English
w Stop Smoking Wales Dim Smygu Cymru
Stop Smoking Wales icon Mae smygwr sy'n defnyddio'r gwasanaeth bedair gwaith yn fwy tebygol roi'r gorau i smygu
  
Hafan > Beth yw Dim Smygu Cymru? > Rhaglen Cymorth Grŵp
  • Hafan
  • Beth yw Dim Smygu Cymru?
    • Sut mae'r Gwasanaeth yn Gweithio
    • Rhaglen Cymorth Grŵp
    • Cwestiynau Cyffredin?
    • Dod o hyd i Grŵp yn agos atoch
    • Fideos Dim Smygu Cymru
  • Pam Rhoi'r Gorau Iddi?
  • Paratoi i Roi'r Gorau Iddi
  • Cyngor ar Roi'r Gorau Iddi
  • Hanesion llwyddiant
  • Cyngor ac Adnoddau

Rhaglen Cymorth Grŵp

OverallSessions2(W)Pan fyddwch yn gwneud apwyntiad i fynd i raglen cymorth grŵp Dim Smygu Cymru, byddwch yn ymuno â grŵp o smygwyr eraill sydd am roi'r gorau i smygu fel chi. Caiff pob grŵp ei arwain gan Gynghorydd hyfforddedig i'ch cefnogi a'ch annog dwy'r rhaglen.
 

Rhaglen Gymorth Chwe Wythnos


Mae rhaglen cymorth grŵp Dim Smygu Cymru yn cynnwys sesiwn asesu, wedi'i dilyn gan chwe sesiwn cymorth ymddygiadol wythnosol. Dyma amlinelliad o'r hyn y gallwch ei ddisgwyl o bob sesiwn: 

Sesiwn Asesu


Client 2Yn y sesiwn hon, fe'ch croesewir i'r grŵp a byddwch yn cadarnhau eich ymrwymiad i'r cwrs. Byddwch yn clywed am fanteision rhoi'r gorau iddi gyda Dim Smygu Cymru a phwysigrwydd cymorth ymddygiadol dwys. Rhoddir gwybodaeth i chi am therapi amnewid nicotin (e.e. patshys a gwm cnoi) a chymhorthion triniaeth eraill. Cyflwynir monitor carbon monocsid i chi a fydd yn monitro eich cynnydd ac yn eich cymell i beidio ag ailddechrau smygu.

Mae monitor carbon monocsid (CO) yn mesur y gyfran fach o CO sydd yn yr aer rydych yn ei anadlu allan. Mae CO yn nwy gwenwynig a gaiff ei anadlu i mewn pan fyddwch yn smygu. Dim ond 30 eiliad y mae'r prawf yn ei gymryd a gall ddangos pa mor gyflym y bydd CO yn gadael eich corff pan fyddwch yn rhoi'r gorau iddi. Dim ond 24 awr y mae'n ei gymryd!

Sesiynau 2-5


Erbyn yr ail sesiwn byddwch wedi rhoi'r gorau i smygu. Yn ystod sesiwn dau i bump, bydd cyfle i drafod symptomau rhoi'r gorau iddi, ffyrdd o ymdopi â sefyllfaoedd anodd, cynnal cymhelliant i roi'r gorau i smygu, cymhorthion rhoi'r gorau i smygu a phrofion carbon monocsid.


Sesiwn 6


Bydd sesiwn 6 yn canolbwyntio ar eich helpu i beidio ag ailddechrau smygu. Cewch gyfle i edrych yn ôl ar y cynnydd rydych wedi'i wneud dros y chwe wythnos a byddwch yn cael cyngor ar sut i'ch atal rhag ailddechrau smygu. Caiff lefelau carbon monocsid eu monitro.

Mae Dim Smygu Cymru yn cynnal sesiynau grŵp wythnosol ledled Cymru. I gael rhagor o wybodaeth am eich sesiwn grŵp Dim Smygu Cymru agosaf, ffoniwch ein llinell gymorth am ddim ar 0800 085 2219 a siaradwch ag aelod o'n tîm cyfeillgar.

Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 09 Rhagfyr 2011

Y dudalen hon yn Saesneg/This page in English

  • Group Support Programme
  • Hygyrchedd |
  • Telerau Defnyddio |
  • Rhyddfraint am Gwybodaeth | 
  • 'N ôl i'r brig | 
  • Designed by Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru | 
  • Polisi Preifatrwydd