Mae rhai pobl yn canfod eu bod yn magu pwysau pan fyddant yn rhoi'r gorau i smygu. Mae llawer o resymau dros hyn:- Mae'r nicotin mewn sigaréts yn rheoli eich archwaeth bwyd ac felly mae rhoi'r gorau i smygu yn golygu eich bod yn teimlo'n fwy llwglyd
- Mae teimlo'n llwglyd ac ysfa am nicotin yn ddau awydd cryf. Pan fyddwch yn rhoi'r gorau i smygu efallai y byddwch yn ei chael yn anodd dweud y gwahaniaeth rhwng y ddau, a all arwain at fwyta mwy
- Pan fyddwch yn rhoi'r gorau i smygu, mae'r gyfradd y mae eich corff yn llosgi calorïau yn arafach
- Gall bwyd flasu'n well pan fyddwch yn rhoi'r gorau i smygu, gall hyn arwain at orfwyta.
- Mae rhai pobl yn bwyta byrbrydau nad ydynt yn fwydydd iach (mints, bisgedi, losin a chreision) yn hytrach na smygu
Yn ystod ein rhaglen gymorth chwe wythnos, bydd eich Cynghorydd yn eich helpu i ddeall pam bod rhai pobl yn magu rhywfaint o bwysau pan fyddant yn rhoi'r gorau i smygu a sut y gallwch osgoi hyn drwy baratoi.
Ffoniwch ein llinell gymorth am ddim ar 0800 085 2219 i siarad ag aelod o'n tîm cyfeillgar a chael gwybod am eich sesiwn agosaf.