Gallwch gael ysfa i smygu yn aml yn ystod yr ychydig ddyddiau cyntaf ar ôl rhoi'r gorau i smygu. Mae ysfa i smygu yn mynd yn fwy dwys dros gyfnod o 3-5 munud ac yna bydd yn dechrau lleihau. Cyngor ar ddelio ag ysfa i smygu
- Peidiwch â gweithredu ar yr awydd i smygu am o leiaf dair munud a bydd yr awydd yn pasio. Peidiwch â rhoi i mewn. Canolbwyntiwch ar dasg wahanol.
- Yfwch wydraid o ddwr neu sudd ffrwythau. Yfwch y dŵr yn araf a gadewch ef yn eich ceg am ychydig cyn ei lyncu. Beth am ychwanegu rhew mâl?
- Gwnewch rywbeth i dynnu eich sylw. Newidiwch eich gweithgaredd neu siaradwch â rhywun. Ceisiwch osgoi'r sefyllfa sy'n gwneud i chi deimlo fel eich bod am smygu. Yn hytrach, ceisiwch gerdded ar ôl swper, osgoi coffi yn y prynhawn neu dreulio amser gyda ffrindiau nad ydynt yn smygu mewn parti. Newidiwch eich gweithgareddau a bydd eich ysfa i smygu yn dod yn llai ac yn haws delio â hi.
- Anadlwch yn ddwfn. Mae hyn yn dda i chi gan nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio capasiti llawn eu hysgyfaint. Anadlwch yn araf ac yn ddwfn. Bydd yn eich helpu i ymlacio.
Ffoniwch ein llinell gymorth am ddim ar 0800 085 2219 i siarad ag aelod o'n tîm cyfeillgar a chael gwybod am eich sesiwn agosaf.