• Sgipio'r mordwyaeth | 
  • Adborth | 
  • Map y safle | 
  • Map dogfennau | 
  • Rhestr A-Y | 
  • Hygyrchedd | 
  • English
w Stop Smoking Wales Dim Smygu Cymru
Stop Smoking Wales icon Mae smygwr sy'n defnyddio'r gwasanaeth bedair gwaith yn fwy tebygol roi'r gorau i smygu
  
Hafan > Beth yw Dim Smygu Cymru? > Sut mae'r Gwasanaeth yn Gweithio
  • Hafan
  • Beth yw Dim Smygu Cymru?
    • Sut mae'r Gwasanaeth yn Gweithio
    • Rhaglen Cymorth Grŵp
    • Cwestiynau Cyffredin?
    • Dod o hyd i Grŵp yn agos atoch
    • Fideos Dim Smygu Cymru
  • Pam Rhoi'r Gorau Iddi?
  • Paratoi i Roi'r Gorau Iddi
  • Cyngor ar Roi'r Gorau Iddi
  • Hanesion llwyddiant
  • Cyngor ac Adnoddau

Sut mae'r Gwasanaeth yn Gweithio

SupportGiven(W)Pan fyddwch yn penderfynu rhoi'r gorau i smygu nid oes rhaid i chi wneud hynny ar eich pen eich hun. Mae Dim Smygu Cymru yn wasanaeth am ddim gan y GIG i helpu pobl yng Nghymru i roi'r gorau i smygu.

Gwyddom nad yw rhoi'r gorau i smygu yn hawdd. Dyna pam bod ein gwasanaeth yn cynnig ymagwedd grŵp cyfeillgar a fydd yn eich helpu i roi'r gorau i smygu ac yn rhoi cymorth parhaus i'ch helpu i beidio ag ailddechrau smygu.

Rydych bedair gwaith yn fwy tebygol o roi'r gorau iddi gyda rhaglen gymorth fel Dim Smygu Cymru na phe baech yn ceisio gwneud hynny ar eich pen eich hun. 

Rydym yn cynnal rhaglenni cymorth grŵp dros chwe wythnos ledled Cymru a gallwch ddod o hyd i grŵp ar adeg ac mewn lleoliad sy'n addas i chi. Mae sesiynau grŵp yn dechrau ychydig wythnosau cyn eich bod yn bwriadu rhoi'r gorau iddi ac maent yn eich helpu i baratoi ar gyfer eich dyddiad rhoi'r gorau iddi. Mae'r sesiynau grŵp yn para chwe wythnos.

Ar ôl i chi roi'r gorau iddi gallwch barhau i gwrdd â'ch grŵp dros gyfnod y rhaglen am gyngor a chymhelliant, gan eich helpu i beidio ag ailddechrau smygu.

Os hoffech roi'r gorau i smygu, siaradwch ag aelod o'n tîm cyfeillgar am ddim ar 0800 085 2219.


Dogenfen i NHS Smokefree Lloegr (Dogfen allanol)
Dogfen i Can Stop Smoking Yr Alban (Dogfen allanol)

Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 12 Ionawr 2012

Y dudalen hon yn Saesneg/This page in English

  • How the Service Works
  • Hygyrchedd |
  • Telerau Defnyddio |
  • Rhyddfraint am Gwybodaeth | 
  • 'N ôl i'r brig | 
  • Designed by Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru | 
  • Polisi Preifatrwydd